CROESO i Anturiaeth Dyffryn Aman
|
Ers iddi ei sefydlu yn 1987, mae Anturiaeth Dyffryn Aman wedi tyfu ac wedi datblygu. Pum gwraig leol gychwynnodd ADA gyda'r weledigaeth o wneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Ers hynny, mae ADA wedi cyffwrdd â bywydau miloedd o bobl ac yn llythrennol wedi gwneud gwahaniaeth. |
|
|
Beth yw ADA? Mae ADA yn fudiad di-lew, yn eiddo ac yn seiliedig yn y gymuned, sy'n darparu gwasanaethau er budd y gymuned trwy gyfuno addysg a hyfforddiant, datblygu busnes cymunedol a phrosiectau cymuned-seiliedig. Pobl sy'n gweithio mewn partneriaeth sydd wedi gwneud ADA mor llwyddiannus. Y Staff sydd, trwy eu hymrwymiad, yn sicrhau darparu gwasanaethau yn effeithiol. Gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser a'u hegni i gefnogi ADA a'i mentrau. Myfyrwyr sy'n cadarnhau ein cred bod rhaid datblygu pobl er mwyn datblygu cymdeithas. Cwsmeriaid sy'n defnyddio ac yn cefnogi ein busnesau cymunedol. Arianwyr, Cefnogwyr a Noddwyr - heb y rhain ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaethau, a'r rhain sy'n parhau i ymateb i ofynion y gymuned. Yn ddiau; ein pobl yw ein cryfder. |
Cysoni anghenion y gymdeithas a busnesau. Yr her i ADA fel busnes cymunedol, yw sut mae darparu gwasanaethau sydd eu hangen ar y gymuned ynghyd â'r rheidrwydd i redeg menter hunan-gynhaliol. Nid yw cysoni anghenion y gymdeithas ag anghenion busnes bob amser yn hawdd ond trwy brofiad rydym wedi dysgu bod yn ddyfeisgar wrth ddatrys y dryswch hwn darparu. Gallwn gynhyrchu £3 o ffynonellau eraill am bob £2 o nawdd yr ydym yn ei dderbyn. Nid yw llwyddiant ADA wedi dod heb siomedigaethau a methiannau ond mae ein gweledigaeth i gyfoethogi a gwella'r gymuned yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddi, yn parhau.
|
|
Anturiaeth Dyffryn Aman, Canolfan Addysg a Hyfforddiant, Hen Swyddfeudd BGC,Tairgwaith, RhydamanSA18 1US Ffôn: (01269) 826267 Ffacs: (01269) 826372 Canolfan Adnoddau, 43 Heol Cae Gurwen, Gwauncaegurwen, Rhydaman SA18 1HG Ffôn: (01269) 826267 Ffacs: (01269) 826372 Canolfan Aman, Stryd Margaret, Rhydaman SA18 2NP Ffôn: (01269) 826267Ffacs: (01269) 826372 Mae Cwmni Anturiaeth Dyffryn Aman yn elusen gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant. |
|