Addysg a Hyfforddiant 

Rhyddhau potensial pobl 

Mae datblygu pobl a rhoi sgiliau iddynt yn un o brif swyddogaethau Anturiaeth Dyffryn Aman. 

Mae cymunedau yn blodeuo pan fo potensial eu pobl yn cael ei hybu. Mae'n rhoi'r cyfle iddynt benderfynu drostynt eu hunain ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau. 

Addysg a hyfforddiant oedd blaenoriaeth ADA pan y'i sefydlwyd hi. 

Mae gennym ar gyfartaledd 40 o gyrsiau gwahanol, rhai galwedigaethol a rhai hamdden, a gynhelir mewn tri lle gwahanol sef Tairgwaith, Rhydaman a Gwauncaegurwen gyda 300-400 o fyfyrwyr yn mynychu bob blwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o'r cyrsiau yn arwain at gymwysterau cydnabyddedig.

 Mae ein hystod o gyrsiau yn parhau i ehangu ac mae'n dal yn atebol i anghenion y myfyrwyr a busnesau lleol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth clôs â darparwyr addysg a hyfforddiant dros 16 mlwydd oed. 

Mae dosbarthu ein gwasanaethau yn lleol yn hanfodol - dangosodd arolwg bod 90% o'r myfyrwyr yn byw o fewn y dalgylch lleol. Mae amgylchedd cyfeillgar, cyfforddus ac anfygythiol yn annog myfyrwyr o ba bynnag oed a gallu i roi o'u gorau. Mae ystyriaeth arbennig yn cael ei rhoi i bobl â phryderon gofal plant, pobl sy'n gweithio rhan amser neu waith shifft; y rhai hynny â phroblemau trafnidiaeth, problemau mynediad neu sydd ar incwm bach. 

Mae cofrestru ar gwrs ADA wedi bod yn gam cyntaf i lawer ar y llwybr yn ôl i ddysgu gan arwain at fwy o hunan-hyder, lefel uwch o sgiliau a'r posibilrwydd o ddychwelyd i'r gweithle.