Busnesau i'r Gymuned - Arlwyo

Elw er mwyn Elwa 

Mae ein busnesau arlwyo, Classic Catering, sydd wedi eu lleoli yn Nhairgwaith a Busnes Cymunedol Cwm Aman, wedi'i leoli yng Nghanolfan Aman, yn fwy na lle i'r gymuned 'gwrdd a bwyta'. 

Maent yn darparu ffynhonnell incwm hanfodol sy'n cynnal gweithgareddau eraill sydd o fudd i'r gymuned. 

Tra bo BCCA (AVCB) yn rhedeg busnes hynod lwyddiannus yng Nghanolfan Aman yn darparu arlwyo allanol, prydau bar, cinio dydd Sul a derbyniadau, mae'r elw a ddaw o hynny yn golygu y gallwn sybsideiddio cost gwasanaethau fel ein cynlluniau gofal chwarae'r gwyliau a'r clwb ar ôl ysgol gan sicrhau eu bod ar gael i nifer fawr o bobl. 

Mae'r arian dros ben a ddaw o gaffi Classic Catering a'r gwasanaethau arlwyo allanol yn ein lleoliad yn Nhairgwaith yn golygu ein bod yn gallu cynnig prydau a byrbrydau am brisiau wedi'u sybsideiddio i fyfyrwyr yn Nhairgwaith, i'r feithrinfa ddydd ac ar gyfer y gymuned yn gyffredinol. 

Efallai yn bwysicach na'r cyfan yw'r ffaith bod ein gwasanaethau arlwyo yn cyflogi nifer sylweddol o bobl leol, cyfran fawr ohonynt yn elwa o'r cyfleoedd hyfforddi sy'n arwain at gymwysterau cydnabyddedig.