|
Un o gonglfeini athroniaeth Anturiaeth Dyffryn Aman yw sicrhau bod rhieni'n
medru cael gofal plant fforddadwy ac o ansawdd gofal plant sy'n lleol
ac yn diwallu anghenion y rhieni hynny sy'n derbyn hyfforddiant.
Mae gennym gyfleusterau sy'n cynnig amgylchedd gofalgar ac ysgogol ar
gyfer babanod hyd at blant 11 oed dan oruchwyliaeth ein tîm o staff profiadol
iawn.
Mae Lots of Tots, ein meithrinfa
ddydd yn Nhairgwaith, yn agored bob dydd o 7:00 y bore tan 6:00 y nos
i ofalu am blant o 6 wythnos oed hyd at 7 mlwydd oed. Mae'r cyfleuster
yn cynnwys Cylch Meithrin hefyd,
sef y cylch chwarae Cymraeg. Mae car cwmni yn casglu'r plant o'r ysgol
neu o gartref, yn enwedig y plant hynny ag anghenion arbennig.
Yng Nghanolfan Aman, Rhydaman, mae ein cynllun chwarae'r gwyliau,
Gwyliau Hwylus, yn cynnig gofal chwarae strwythuredig i blant
4-11 oed yn ystod diwrnodau'r wythnos gwyliau ysgol o 8:30 am tan 5:30
pm.
Mae ein clwb ar ôl ysgol, Clwb
Hwyl a Sbri,
sydd hefyd yng Nghanolfan Aman, yn gofalu am blant o 4-11 oed o 3:00 pm
tan 6:00 pm. Mae'r plant yn cael eu codi o wyth o ysgolion lleol yn ein
bws mini.
Yr elfen allweddol o'r cychwyn o ran llwyddiant ein darpariaeth gofal
plant yw partneriaeth â rhieni a'u cyfranogaeth ffyddlon.
Mae enw da ADA fel darparwr gofal plant o'r
radd flaenaf heb ei ail ac mae'r ffaith bod bron 200 o blant wedi'u cofrestru
i ddefnyddio ein gwasanaethau yn profi hynny.
|