Gwaith Prosiect ac Adnoddau
| Partneriaid yn Gwiuthredu
|
|
|
Gwaith Prosiect Mae ein hymagwedd datblygu cymuned yn cynnwys gwaith prosiect penodol i gynorthwyo grwpiau yng nghymunedau Cwm Aman a Chwm Tawe i ddatblygu, rheoli a pherchen adnoddau ychwanegol sy'n cwrdd ag anghenion neu'n datrys problemau a nodwyd. MCA yw'r catalydd rhwng yr arianwyr, yn adeiladau partneriaeth ac yn galluogi'r cymunedau yn y pen draw i reoli'r prosiect yn cynnwys Strategaeth Gwella Brynaman Uchaf drwy ddatrys eiddo gwag, cyfleusterau i'r ieuenctid, gwell darpariaeth iechyd a defnyddio hen Ysgol Fabanod er budd y gymuned. Mae prosiect Neuadd Les Glowyr Cwmllynfell yn enghraifft o bartneriaeth weithio lwwyddiannus rhwng y sector preifat, y sector cyhoeddus, Comisiwn y Milemiwm a menter y gymuned i ddymchwel ac ailadeiladu'r neuadd o'r 30au a'i hailosod â chyflesterau amlbwrpas fel lle i lyfrgell a chyflysterau TG modern, prosiectau hyfforddi ieuenctid, ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, caffi, wal ddringo, neuadd fawr ac ystafelloedd pwyllgor. Mae MCA wedi helpu'r gymuned i ddod o hyd i £500,000 ac i ddysgu sut i gynllunio/ rhedeg y prosiect fel busnes cymunedol cynaliadwy. Mae'r prosiect Undeb Gredyd a Chynghori ar Ddyled/ Cyngor ar Arian yn darparu cyfleoedd i ddatrys y broblem enfawr yn y cwm ac i gadw arianyn yr ardal yn hytrach na'i golli bwmniau benthyg tu allan i Gymru. Mae'r prosiect hwn yn gweithio mewn partneriaeth â'r Ganolfan Gynghori a'r Awdurdod Lleol ac yn hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaeth lleol. Adnoddau Mae Gwasanaeth Busnes a Chyfrifiadurol Aman (ABACAS) yn cynnig cyflesterau ar gyfer llungopio, ffacsio, e-bost a'r We, gwasanaethau ysgrifenyddol a chyfrifiadurol ar gyfer unigolion a grwpiau am brisiau rhesymol. Cymorth o'r Cwm yw'r ymgynghoriaeth ar gyfer addysg a hyfforddi arbenigol a datblygiad cymunedol sy'n gweithredu fel mudiad cydweithredol. Mae'n rhannu'r gwersi a'r sgiliau a ddysgwyd gennym er mwyn cynhyrchu incwm a fydd yn ariannu ein prosiectau.
|