|
Y Celfyddydau
Yr ydym yn darparu cyfleoedd a hyfforddiant i bobl ifanc i fynegi eu
hunain yn greadigol drwy fideo, recordio sain, CPD (DTP)/ gwaith dylunio
a chyngherddau, yn bennaf ar cerddoriaeth roc. Mae prosiect menter Cymunedol
"Artworks' yn bwriadu datblygu busnesau
cymunedol a chyfleoedd gwaith i bobl 16-25 oed yn enwedig drwy ddarparu
canolfan celfyddydau a chyfryngau cymunedol yng Nghwm Aman.
Mae Cerddoriaeth yn y Cwm yn cynnwys
pobl ifanc a phobl h n drwy gynyddu diddordeb pobl leol mewn gweithgareddau
cerddorol a datblygu Strategaeth Gelf ar gyfer ardaloedd Cwm Aman a Chwm
Tawe.
Yr Amgylchedd
Yr ydym yn gweithio'n glos ag ysgolion cynradd i ddarparu cyrsiau ac
arddangosiadau ar werth gwarchod yr amgylchedd, rheoli gwastraff a gweithio
coetiroedd traddodiadol. Yr ydym yn helpu'r awdurdodau lleol i gyflawni
eu pecynnau Agenda 21 ac yn gweithio gyda Chyrff arbenigol yr amgylchedd
i greu lleoliadau gwaith, darpary rhwydwaith o weithwyr coetir a datblygu
cynlluniau gwella'r amgylchedd.
Iechyd
Mae Menter Iechyd Cwm Aman
yn cynnwys gweithwyr gwirfoddol sy'n trefnu ac yn datblygu rhaglenni ffitrwydd
i bobl sydd yn 50, 60 a 70, teithiau cerdded sydd wedi eu trefnu mewn
modd cymdeithasol ac iachus, ac yn gweithio gyda'r Meddygon Teulu lleol
i ddatblygu Cannolfannau Byw'n Iach sy'n hyrwyddo ansawdd bywyd gwell
yn gyffredinol.
[Pen y Dudalen]
|